🔗 ⚙️

Deifio by Kizzy Crawford

Tracklist
1.Deifio3:58
Lyrics

Golchi fy ngholur bant sychu fy llygaid
Teimlo’n dwym tu fewn a tu fas
Ger y ffenest yn adlewyrchu nôl
Wneith fy mreuddwydion byth dod yn wir

Dwi’n drifftio ffwrdd môr uchel â barcud coch
I fod yn ddyfnach tu fewn i fy mhen
Ble dydy pethau ddim yn poeni fi
A mae’r haul mas fel cariad uwchben

CYTGAN
Tonnau’n llifo heibio’n lan
Dwi’n cymryd siawns i neud be bynnag dwi moyn
Anghofio am fy ngwallt tro ‘ma
Dwi’n gorwedd synnu ar y sêr
Ac yna deifio mewn

Dwi’n gweld ti gyda onestrwydd a pharch
Mor wahanol i sut dwi’n gweld fi
Dwi eisiau ffocysu ond ti’n gadael fi crio
A ti'n dal fi nes bod fi'n arnofio

CYTGAN
Tonnau’n llifo heibio’n lan
Dwi’n cymryd siawns i neud be bynnag dwi moyn
Anghofio am fy ngwallt tro ‘ma
Dwi’n gorwedd synnu ar y sêr
Ac yna deifio mewn



Copyright BDi Music Ltd

Credits
released February 5, 2021
Written/Produced/Mixed by Kizzy Crawford
Mastered by Gethin John
Published by BDi Music Ltd
LicenseCC BY-ND 3.0. See the Creative Commons website for details.
Tags
Recommendations