🔗 ⚙️

Danybanc by Bendith

Tracklist
1.Danybanc3:36
Lyrics

Mae’r hen le wedi mynd yn llai
Neb ar ol ond un neu ddau
Gorfod derbyn taw fel ‘na mae -
Un drws yn agor, y llall yn cau

Rwy’n cofio pan
O’n ni yn blant
Yn chwarae lawr
Yn Danybanc

Gorwedd lawr a breuddwydio
Ar y porfa wrth yr hen bont
A swn y dwr yn rhedeg dano
Ambell i gar yn gyrru heibio

Rwy’n cofio pan
O’n ni yn blant
Yn chwarae lawr
Ar bwys y nant
Y dyddiau pan
O’n ni yn fach
Yn chwarae lawr
Yn Danybanc

Atgofion cynnes yn fy nghalon
O’m hoff lefydd a’m hoff bobol
Darnau’r blanced o’r gorffennol
Amdanai’n dynn am y dyfodol

Rwy’n cofio pan
O’n ni yn blant
Yn chwarae lawr
Ar bwys y nant
Y dyddiau pan
O’n ni yn fach
Yn chwarae lawr
Yn Danybanc

Y dyddiau pan
O’n ni yn fach
Yn chwarae lawr
Yn Danybanc

Credits
released May 9, 2016
LicenseAll rights reserved.
Tags
Recommendations